Offerynnau Statudol gydag Adroddiadau Clir
15 Mai 2017
SL(5)100 – Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017
Y weithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau yn dirymu ac yn ailddatgan gyda gwelliannau ddarpariaethau Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016. (“Rheoliadau 2016”). Mae Rheoliadau 2016 yn cydgrynhoi ac yn diweddaru offerynnau cynharach a oedd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (“Cyfarwyddeb 1985) ar asesu effaith rhai prosiectau cyhoeddus a phreifat ar yr amgylchedd mewn cysylliad â chynllunio gwlad a thref yng Nghymru.
Cafodd Cyfarwyddeb 1985 ei disodli gan Gyfarwyddeb 2011/92/EU (“y Gyfarwyddeb”) Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 13 Rhagfyr 2011 ar asesu effeithiau rhai prosiectau cyhoeddus a phreifat ar yr amgylchedd. Mae'r Gyfarwyddeb wedi'i diweddaru gan Gyfarwyddeb yr EU 2014/52/EU.
Mae'r Rheoliadau yn gosod gofynion gweithdrefnol mewn perthynas â rhoi caniatâd cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Rhiant-Ddeddfau: Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972; Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
Fe’u gwnaed ar: 20 Ebrill 2017
Fe’u gosodwyd ar: 20 Ebrill 2017
Dyddiad dod i rym: 16 Mai 2017